Gall pobol yng Nghymru archebu profion coronafeirws ar wefan Brydeinig o heddiw (dydd Sadwrn, Mai 30).

Daeth cadarnhad bythefnos yn ôl fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu defnyddio’r system Brydeinig yn hytrach na datblygu ei system ei hun.

Serch hynny, doedd profion ddim ar gael ar unwaith yng Nghymru.

Ond daeth cadarnhad eu bod nhw bellach ar gael mewn canolfannau galw heibio.

Mae citiau cartref hefyd ar gael drwy’r post o fewn diwrnod erbyn hyn.