Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i swyddogion troseddau amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru sylwi ar rwyd anghyfreithlon yn afon Teifi yng Ngheredigion.

Roedd y swyddogion yn cynnal patrôl arferol o afon Teifi ddydd Iau, Mai 14 pan ddaethon nhw o hyd i’r rhwyd yn y dŵr.

Roedd saith brithyll y môr yn farw yn y rhwyd.

Yn dilyn ymchwiliad ar y cyd â Heddlu Dyfed Powys, cafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o droseddau pysgota anghyfreithlon yn nyffryn Teifi.

Diogelu

“Diolch i waith ardderchog ein swyddogion a Heddlu Dyfed Powys, gwnaethom lwyddo i atal rhagor o niwed i boblogaeth brithyllod y môr Afon Teifi, meddai David Lee, arweinydd tîm gweithrediadau gogledd a chanolbarth Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Rydym yn ystyried unrhyw weithgaredd sy’n bygwth brithyllod y môr ac eogiaid yn fater hynod ddifrifol ac mae hynny’n arbennig o wir am bysgota anghyfreithlon.

“Gall rhwydi ddal nifer fawr o bysgod, ac o ystyried yr heriau presennol o ran niferoedd stociau mae pob brithyll y môr neu eog sy’n cael eu cymryd yn ergyd arall i’n hymdrechion i ddiogelu’r pysgod eiconig hyn.”

Er gwaethaf y cyfyngiadau symud presennol oherwydd y coronafirws, mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i batrolio afonydd Cymru.

Maen nhw’n annog pobol i wneud yn siŵr bod y pysgod maen nhw’n eu prynu’n lleol – yn enwedig drwy’r cyfryngau cymdeithasol – yn dod o ffynhonnell ddilys.