Mae Russell George, llefarydd busnes y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud ein bod ni ynghanol “amser sy’n peri pryder” i’r diwydiant ceir, yn dilyn y cyhoeddiad gan Aston Martin Lagonda ddoe (dydd Mawrth, Mai 26) fod eu Lywydd a Phrif Weithredwr, Dr Andy Palmer, yn gadael.

“Cafodd coronafeirws effaith enfawr ar y sector modurol adwerthu, gyda llawer llai o geir yn cael eu gwerthu ar draws yr holl gromfachau prisiau a marciau nag y gellid ei ragweld,” meddai Russell George.

“A daeth hyn ar ôl cwymp ym marchnad Tsieina y llynedd.

“Yn amlwg, mae’n amser sy’n peri pryder i’r diwydiant cyfan, yn enwedig y cannoedd o weithwyr yma yng Nghymru yn ffatri Sain Tathan, a oedd – ynghyd â’i chwaer waith yn Lloegr – wedi atal cynhyrchu ym mis Mawrth oherwydd coronafeirws.

“Mae cyfleuster Aston Martin yn ne Cymru wedi derbyn miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr, ac rwy’n chwilio am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ei fod yn ymgynghori â’r brand i ddiogelu’r buddsoddiad y mae wedi ei wneud, a’r swyddi a grëwyd yn y ffatri.”

Dyfodol Aston Martin

Roedd pris cyfranddaliadau Aston Martin wedi gostwng i 35 ceiniog y pen, o’i gymharu â gwerth lansio o £19 fesul cyfran yn Hydref 2018.

Mae gan Aston Martin ddau o weithfeydd: ei bencadlys yn Gaydon, Swydd Warwick, a’i chwaer waith yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg.

Mae’r gweithfeydd Cymreig yn gartref i’r ‘DBX sports-crossover’, ac mae sôn y bydd hefyd yn gartref i ystod o gerbydau trydan y Marque yn y dyfodol.

Bydd Tobias Moers o Mercedes-AMG yn olynu Dr Andy Palmer ym mis Awst.