Dydy Cymru ddim yn gallu fforddio “free for all” ar dai haf, yn ôl un o gynghorwyr sir Gwynedd sy’n rhybuddio y gallai’r sefyllfa droi’n “drafferth go iawn”.

Yn ôl Craig ab Iago, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Dai ac sy’n cynrychioli ward Llanllyfni, mae perygl bod pobol leol yn cael eu gwthio allan o’r farchnad am fod pobol yn dod o’r tu allan i brynu tai haf.

Fe fu’n siarad â golwg360 ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod 7,000 o dai yng Ngwynedd – oddeutu 10% o’r stoc tai – dan berchnogaeth pobol sy’n byw y tu allan i Gymru.

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn atal pobol rhag cofrestru ail gartrefi fel busnesau.

Yn ôl Craig ab Iago, mae angen gosod cyfyngiadau ar faint o eiddo’r sir sy’n gallu mynd ar werth fel ail gartrefi.

“Mae o’n digwydd mewn lot o lefydd yn y byd fel Barcelona, ac mae ’na lot o lefydd yn Lloegr sy’n gwneud rhywbeth tebyg, lle mae ’na limit ar faint o dai haf maen nhw’n gallu cael mewn unrhyw ardal,” meddai.

“Dydan ni ddim efo dim byd fel ’na o gwbl, so mae o’n laissez-faire, neo-liberal lle, os wyt ti efo mwy o bres na rhywun lleol, ti’n gallu prynu tŷ, mor syml â hynny.

“Wrth gwrs, dydy hynny ddim yn gynaladwy i ni o gwbl.

“Dan ni’n colli 40% o’n stoc tai ni sy’ ar y farchnad bob blwyddyn. Llynedd, 900 o dai oedd gyda ni.

“Beth bynnag rydan ni’n gwneud yn y sir, dydan ni ddim yn gallu replace-io tai rydan ni’n colli.”

‘Torri ar draws bob adran yn y cyngor’

Mae’n dweud bod y sefyllfa’n cael effaith niweidiol ar bob adran o’r Cyngor a bywyd y sir.

“Mae o’n torri ar draws yr economi’n llwyr, addysg achos mae o’n gwneud bob pentref yn anghynaladwy ac yn y diwedd, ti’n colli ysgolion, ti’n colli busnesau lleol, ti’n colli’r economi leol.

“Be ’dan ni’n gwneud ydi trio cadw busnesau lleol yn lleol achos, os does neb yn byw yn y pentre’, mae’n amhosib cadw’r pentre’n gynaladwy yn economaidd, yn gymdeithasol nac yn amgylcheddol.

“Rydan ni angen y grym, ddim jyst yng Ngwynedd ond ym mhob sir, i reoli beth bynnag rydan ni’n meddwl ydi’r limit.

“Mae ’na enghreifftiau o be’ mae’n bosib gwneud efo cynlluniau tai haf. Heb y grym yna, mae jyst yn free for all. Dydan ni ddim yn gallu dibynnu ar free for all, mae’n amhosib.

“Rydan ni angen y grym i reoli’r sefyllfa.

“Does dim grym gyda ni fel sir neu Cyngor i ddeud, ‘Iawn, mae ’na limit ar faint o dai haf sydd’.”

‘Os ydi o’n iawn yn Lloegr, mae’n iawn yn fama’

Yn ôl Craig ab Iago, mae sawl cynsail yn Lloegr lle mae blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobol leol wrth brynu tai.

“Mae llefydd fel Cernyw lle mae ’na lefydd sy’n dweud bo nhw ddim am wneud mwy o dai haf, y Lake District ac mae un lle, West Wycombe lle os wyt ti ddim yn dod o West Wycombe, ti ddim yn gallu prynu tŷ yno.

“Os ydi o’n iawn yn Lloegr, mae’n iawn yn fama hefyd.”

Ond mae sefyllfa’r iaith Gymraeg yn gwneud Cymru’n unigryw, ac mae Craig ab Iago yn wfftio’r rhai sy’n honni bod tai lleol i bobol o Gymru’n agwedd hiliol – agwedd sy’n dod yn fwyfwy amlwg ers ymlediad y coronafeirws lle mae galw ar bobol o’r tu allan i Gymru gadw draw yn sgil y cyfyngiadau teithio.

“Dyna un peth sydd yn digwydd, neu sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd, ydi os ’dan ni’n deud yn fama fod o ddim yn deg bod pobol yn dod yma i brynu tai haf neu stoc tai achos bod o’n gwneud ein bywydau’n llai cynaladwy ar sail economaidd a chymdeithasol – ac mae cymdeithasol yn cynnwys yr iaith – unwaith rydan ni’n sôn am hynny, maen nhw’n deud bo ni’n hiliol ond dydi hynny’n ddim byd i wneud â’r peth.

“Rydan ni jyst yn trio cadw ein byd yn gynaladwy.

“Felly efo sut mae pethau wedi digwydd yn ddiweddar, efo’r ffaith bo ni’n colli cymaint o dai bob blwyddyn fel tai haf a beth sy’n digwydd efo’r pandemig, mae’n dangos diffyg pwerau a diffyg grym i reoli’r sefyllfa yn fama, mae hynny wedi tanseilio’r ddadl hiliol.

“Yn y bôn, mae’n dod lawr i beth mae’r llywodraeth yng Nghaerdydd yn gwneud efo’n grym ni dros dai.”

‘Trafferth go iawn’

Mae’n rhybuddio ymhellach fod Cymru’n wynebu “trafferth go iawn” pe na bai’r sefyllfa’n cael ei datrys.

“Os dydi’r sefyllfa ddim yn newid, rydan ni mewn trafferth go iawn yn fama.

“Os ’dan ni’n colli 900 o dai bob blwyddyn ac yn dechrau efo 10% o’n stoc tai ni’n dai haf, os ti’n adio 10% ar bob tŷ sydd ar werth yng Ngwynedd bob blwyddyn yn mynd i bobol sy’ ddim yn byw yma, sy’ jyst eisiau tŷ haf ac sydd eisiau rhywle i fynd dwywaith y flwyddyn dros y Pasg ac am bythefnos dros yr haf, fyddwn ni ddim yma dim mwy.

“Dim ots faint o swyddi rydan ni’n creu, heb y tai yna byddwn ni’n gorfod byw yn rhywle arall.

“Mae’n tanseilio cymunedau, addysg, yr economi, pob adran yn y sir, gofal, bob dim oherwydd fod y tai ddim yna.”