Mae Chris Bryant yn dweud wrth golwg360 fod “ymosod ar wladgarwch y Rhondda” yn “warthus”.

Mae Aelod Seneddol Llafur y Rhondda bellach wedi ymateb i ffrae ar Twitter ar ôl cyfeirio at Natsïaeth wrth ddadlau’n gynharach nad oes modd bod yn sosialydd ac yn genedlaetholwr yng Nghymru.

“Aeth yr holl beth sosialaeth genedlaetholgar ddim yn dda iawn yn yr Almaen, naddo?” oedd ei sylw gwreiddiol wrth ymateb i un o’r sylwadau ar ei dudalen Twitter.

Mae nifer, gan gynnwys yr Aelod Cynulliad Bethan Sayed, wedi galw ar i Chris Bryant ddileu’r sylw.

‘Ffedog y bwtsiwr’

Roedd Leanne Wood wedi bod yn gwneud sylw am erthygl ar wefan Nation.Cymru yn cyfeirio at sylwadau gan Mark Drakeford, wrth iddo ddadlau nad oes modd bod yn genedlaetholwr ac yn sosialydd.

“Os ydych chi eisiau i Gymru sefyll ar ei thraed ei hun, i ddod â dibyniaeth ar eraill i ben, rydych chi’n genedlaetholwr,” meddai Leanne Wood.

“Os ydych chi’n chwifio ffedog y bwtsiwr [Jac yr Undeb] ac yn moesymgrymu ac yn crafu i Mrs Windsor, dydych chi ddim yn genedlaetholwr ac felly, fe allwch chi fod yn sosialydd.”

Chris Bryant yn amddiffyn ei hun

“Mae fy mhwynt yn syml,” meddai Chris Bryant mewn ymateb i golwg360.

“Mae’n warthus ymosod ar wladgarwch y Rhondda lle gwnaeth miloedd hongian Jac yr Undeb i ddathlu trechu ffasgiaeth yr wythnos ddiwethaf, drwy alw’r baneri hynny’n ffedogau’r bwtsiwr.

“Ac fe wnaeth yr NSDAP [y Blaid Natsïaidd] alw eu hunain yn sosialwyr ond doedden nhw ddim yn fwy sosialaidd na Mosley [Oswald Mosley, arweinyd Undeb y Ffasgwyr Prydeinig].”

Mae e hefyd wedi amddiffyn ei sylwadau ar Twitter, gan gyfeirio unwaith eto at sylwadau Leanne Wood am “ffedog y bwtsiwr”.