Mae dynes 29 oed wedi cael ei chadw yn y ddalfa ar gyhyuddiad o lofruddio warden eglwys a cheisio llofruddio tri o bobl eraill.

Fe ymddangosodd Zara Anne Radcliffe gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw (Dydd Iau, Mai 7) ar gyhuddiad o drywanu John Rees, 88 oed, yn farw yn siop Co-op ym Mhenygraig yng Nghwm Rhondda.

Mae Zara Anne Radcliffe o Stryd Wyndham, Porth, hefyd wedi’i chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobl eraill gafodd eu hanafu yn ystod y digwyddiad ddydd Mawrth (Mai 5).

Mae un dyn mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty a chafodd dau berson arall anafiadau sydd ddim yn bygwth eu bywydau.

Llys y Goron

Yn ystod y gwrandawiad byr, fe gadarnhaodd Zara Anne Radcliffe ei henw, dyddiad geni a chyfeiriad. Nid oedd cais am fechnïaeth a chafodd ei chadw yn y ddalfa.

Fe fydd yr achos yn cael ei drosglwyddo i Lys y Goron Caerdydd ac mae disgwyl gwrandawiad eto ddydd Llun, Mai 11.

Roedd John Rees yn byw yn Nhrealaw gyda’i wraig Eunice ac yn warden yn yr eglwys yno.

Mewn teyrnged iddo dywedodd ei deulu ei fod yn “uchel iawn ei barch yn y gymuned” a bydd “colled fawr ar ei ôl.”

Mae Heddlu De Cymru wedi cyfeirio ei hun i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) ond nid yw wedi egluro pam.