Gan fod drysau’r Brifysgol ynghau i fyfyrwyr ar hyn o bryd, mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn gwneud yn siŵr fod defnydd yn cael ei wneud o’i hadeiladau er mwyn helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.

Mewn datganiad diweddar, cyhoeddodd y Brifysgol eu bod wedi cyfrannu adeilad fel canolfan sgrinio gweithwyr allweddol a gofod meddygol at ddefnydd meddygon teulu lleol.

Mae’r safle ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth, ac mae wedi ei glustnodi fel uned profi gymunedol ac yn ôl y Brifysgol, mae eisoes wedi sgrinio dros 115 o weithwyr allweddol sy’n byw yng Ngheredigion, Powys a De Gwynedd.

Mae’r un adeilad hefyd wedi ei ddynodi fel ardal glinigol i’w defnyddio gan feddygon teulu neu’r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau arferol ar gyfer cleifion sydd wedi eu heintio a’r coronafeirws, neu o bosib wedi eu heintio.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r Brifysgol wedi sicrhau bod ystod eang o’i chyfleusterau a’i gwasanaethau ar gael i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae llety i staff y gwasanaeth iechyd a gweithwyr y gwasanaethau brys ym mhreswylfeydd y Brifysgol ar gampws Penglais. Yn ogystal, mae timau o fewn y Brifysgol wedi cyflenwi a chynhyrchu offer diogelwch personol ar gyfer gweithwyr iechyd rheng flaen a chartrefi gofal.