Mae llefarydd addysg Plaid Cymru wedi dweud na ddylai’r pandemig coronafeirws olygu bod plant yn colli eu haddysg ac na ddylid “gadael unrhyw blentyn ar ôl.”

Dyweododd Siân Gwenllian AC fod yr “anghyfartaledd addysgol” wedi dod i’r amlwg dros yr wythnosau diwethaf ac y gallai’r “cyfnod estynedig” o ddysgu gartref achosi “ledu’r bwlch cyrhaeddiad”.

Daw ei ssylwadau ar ol i grŵp newydd Cynghrair Gwrthdlodi Cymru ysgrifennu llythyr at y Prif Weinidog Mark Drakeford, i ofyn am gymorth ariannol i rieni a fydd yn ei chael yn anodd darparu’r adnoddau sydd eu hangen i wneud gwaith ysgol.

“Mae athrawon yn ceisio bod mor hyblyg â phosibl. Ond wedi sawl wythnos o’r drefn ysgolion newydd erbyn hyn mae’r anghyfartaledd addysgol sy’n cael ei achosi gan dlodi wedi dod yn glir,” meddai Siân Gwenllian AC.

Dylai pob cymuned a phob cartref yng Nghymru – gwledig neu drefol, gogledd neu dde gael yr un cyfleoedd wrth wynebu’r sefyllfa anodd hon.

“Does dim syniad ynghylch pryd bydd ysgolion yn ailagor, ac mae rhai’n awgrymu na fyddant yn ailagor tan fis Medi; gallai’r cyfnod estynedig hwn achosi i’r bwlch cyrhaeddiad ledu. Mae bod heb wi-fi neu ddyfeisiau addas yn golygu bod plant wedi’u cloi allan o’u haddysg.”

Anghydraddoldeb

Meddai Eirlys Edwards, pennaeth ysgol gynradd yng Nghonwy, nad oes gan lawer o blant ac athrawon mewn ardaloedd gwledig yng Nghonwy a Gwynedd fynediad i’r rhyngrwyd ac nad ydyn nhw’n gallu manteisio i’r eithaf ar weithgareddau dysgu o bell fel Hwb neu Google Classrooms.

Dywedodd Eirlys Edwards, er eu bod yn ceisio bod “mor hyblyg â phosibl” i sicrhau nad oedd plant heb gysylltiad gwe “dan anfantais”, roedd yr anghydraddoldeb yn glir.

Yn ôl Eirlys Edwards hefyd, mae Conwy wedi bod yn “arwain y ffordd” yn ymateb i’r broblem drwy ddarparu “dongles” symudol am ddim i gartrefi mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell.

Awgrymodd y gallai hyn gael ei ailadrodd ledled Cymru er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael mynediad at yr un adnoddau a’r un cyfleoedd.

“Dylai fod gan bob plentyn, ble bynnag mae’n byw, yr un adnoddau a’r un cyfleoedd” meddai.

‘Ddim yn rhy hwyr’

“Dyw hi ddim rhy hwyr i weithredu awgrym Plaid Cymru o gyfarpar am ddim,” meddai Siân Gwenllian AC.

“Rwy’n deall fod rhai awdurdodau lleol yn darparu offer a ‘dongles’ i’r disgyblion rheiny sydd eu hangen. Mae angen arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru fel bod ysgolion ac awdurdodau lleol led led Cymru yn darparu offer i blant sydd ei angen gan roi cefnogaeth ariannol i awdurdodau sydd angen prynu laptops newydd ar frys.

“Ni ddylai’r pandemig Coronafeirws olygu bod plant ar eu colled o ran eu haddysg. Ni ddylid gadael unrhyw blentyn ar ôl.