Mae Dwr Cymru wedi darganfod algau gwyrddlas yng nghrofna ddwr Llyn Alaw ger Llantrisant ar Ynys Môn all achosi brech ar y croen, cyfog, poenau stumog, twymyn a chur pen os caiff ei lyncu. Weithiau gall hefyd arwain at niwed i’r ymennydd neu’r iau ac mae plant mewn mwy o berygl nac oedolion.

Gosodwyd arwyddion o amgylch y llyn er mwyn rhybuddio aelodau’r cyhoedd a chyfyngu ar y gweithgareddau dwr sy’n digwydd yno. Mae pobl yn cael eu cynghori i beidio nofio yn y llyn na llyncu’r dwr a chyffwrdd yn yr algau. Ni ddylid chwaith fwyta pysgod o’r llyn na chaniatau i anifeiliaid anwes na da byw fynd yn agos i’r dwr.

Mae Asiantaeth Amgylchedd Cymru yn cadw llygad ar y sefyllfa ac yn adolygu samplau yn gyson ond os bydd yr algau yn parhau i dyfu yna bydd yn rhaid cau’r safle hyd nes y bydd y lefelau yn gostwng.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth bod tywydd yn effeithio ar yr algau yma sydd yn tueddu i ddiflannu wedi tywydd oer a gwyntog. Ychwanegodd y bydd yn rhaid cau’r gronfa os y bydd y lefelau yn codi ondbod hyn yn anhebygol yr adeg yma o’r flwyddyn.

“Nid ydym yn disgwyl gweld achos newydd fel hyn fel arfer yr adeg yma o’r flwyddyn.” meddai.