Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi pwyso ar bobl i wirio eu ffeithiau cyn postio honiadau a gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Daw’r rhybudd ar ôl i unigolyn honni ar Twitter fod nyrsys sydd yn gweithio mewn Uned Gofal Dwys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi marw.

Yn ôl y Bwrdd Iechyd, dydy hynny ddim yn wir, ac mae nhw wedi llwyddo i ddod o hyd i’r unigolyn a rannodd y wybodaeth yma.

Mae’r unigolyn dan sylw wedi ymddiheuro ac wedi tynnu’r post i lawr bellach.

“Rydym yn ymwybodol o’r trydariad anghywir sydd yn honni bod nyrsys o’n Uned Gofal Dwys ni wedi marw,” meddai Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.

“Dydy hyn ddim yn wir.

“Gofynnwn i chi plis wirio eich ffeithiau cyn postio neu rannu gwybodaeth sydd yn anghywir.

“Mae hyn yn bwysig ar unrhyw adeg, ond yn arbennig nawr.”