Mae bwni fach wedi cael ei chymryd fewn i ofal elusen yr RSPCA ar ôl cael ei darganfod ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan aelod o’r cyhoedd fis diwethaf.

Mae un o swyddogion bywyd gwyllt yr RSPCA wedi bod yn gofalu am y bwni.

“Cafodd y gwningen fach yma ei darganfod yn denau, yn sychedig ac yn oer,” meddai Ellie West.

“Roedd hi’n rhy ifanc i fod i ffwrdd o’i mam felly fe roddom ni hi mewn crud i’w chynhesu.

“Dechreuodd hi deimlo’n well ar ôl cael bwyd.”

Ddydd Llun (Mawrth 30) fe gludodd Ellie West y gwningen i Ganolfan Bywyd Gwyllt yr RSPCA yn Taunton i gael rhagor o driniaeth.

Mae’r ganolfan – sydd yn dal i ofalu am anifeiliaid ymysg y pandemig coronafeirws – eisoes yn gofalu am gwningen tua’r un oed.

“Dw i mor falch ei bod hi wedi magu pwysau,” meddai Ellie West, “a bellach mae hi wedi dyblu ei phwysau i 200 gram o fewn pythefnos.”