Fe fydd dyn 69 oed o Gwmbrân yn mynd gerbron llys yn ddiweddarach eleni ar amheuaeth o lofruddio’i wraig 67 oed yn ystod gwarchae’r coronafeirws.

Cafwyd hyd i Ruth Williams yn anymwybodol yn ei chartref am oddeutu 6.50 fore dydd Sadwrn (Mawrth 28).

Cafodd ei chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, lle bu farw.

Roedd hi ac Anthony Williams wedi bod yn briod am 44 o flynyddoedd.

Gwrandawiad

Cafodd gwrandawiad ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 30), gyda’r barnwr, bargyfreithwyr a gohebwyr yn cysylltu â’i gilydd trwy fideo.

Dydy Athony Williams ddim wedi cyflwyno ple, ac mae lle i gredu y gallai’r achos ddechrau ar Fedi 14.

Serch hynny, mae’r barnwr Paul Thomas yn dweud ei bod yn annhebygol o ddechrau bryd hynny o ganlyniad i ymlediad y coronafeirws.

Cafodd Anthony Williams ei gadw yn y ddalfa ar ôl peidio â chyflwyno cais am fechnïaeth.