Mae cyfres o ganolfannau gofal plant bellach wedi’u hagor ledled Powys, fel nad ydy pob ysgol yn y sir yn gorfod bod ar agor i ofalu am blant y rheiny sy’n weithwyr allweddol.

Y cyngor sir sydd wedi penderfynu sefydlu’r canolfannau mewn 13 o ysgolion, ac mae disgwyl iddyn nhw fod ar agor ar bob diwrnod o’r wythnos o wyth y bore tan chwech y prynhawn.

Bydd y canolfannau yn gofalu am blant bregus, a phlant y rheiny sy’n rhan o’r ymdrech yn erbyn coronafeirws – staff y Gwasanaeth Iechyd ac ati.

Byddan nhw hefyd yn cludo plant o’u cartrefu ac yn darparu prydau tair gwaith y diwrnod.

“Mae’r cyngor i rieni yn glir – os ydy eich plant yn medru aros yn eu cartrefi yn ddiogel, mi ddylen nhw wneud hynny,” meddai Phyl Davies, Aelod Cabinet y Cyngor tros Addysg ac Eiddo.

“Fodd bynnag, bydd yn rhaid i weithwyr allweddol sicrhau bod eu plant yn cael gofal.

“Bydd y canolfannau gofal plant brys yma yn darparu gwasanaeth hollbwysig i gefnogi gweithwyr allweddol a’n plant mwyaf bregus.”

Y canolfannau

Mae’r cynllun yn cael ei lansio heddiw yn y canolfannau canlynol:

  • Aberhonddu: Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy
  • Llanfair ym Muallt: Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Pontnewydd ar Wy
  • Crughywel: Ysgol Gynradd Gymunedol Crughywel
  • Gwernyfed: Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Archddiacon Griffiths, Llyswen
  • Llandrindod: Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llandrindod, Cefnllys
  • Llanfair Caereinion: Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion
  • Llanfyllin: Ysgol Gynradd Llanfyllin
  • Llanidloes: Ysgol Gynradd Gymunedol Llanidloes
  • Llanandras: Ysgol Gynradd Gymunedol Llanandras
  • Machynlleth: Ysgol Bro Hyddgen
  • Y Drenewydd: Ysgol Dafydd Llwyd
  • Y Trallwng: Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng
  • Ystradgynlais: Ysgol Dyffryn y Glowyr