Fe fydd y Cynulliad yn cyfarfod ddydd Mawrth (Mawrth 24) i ystyried Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â’r Bil Coronafeirws.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cais gan y prif weinidog Mark Drakeford i’r Llywydd Elin Jones, sydd wedi cytuno i addasu Busnes y Cynulliad yr wythnos nesaf.

Bydd y cyfarfod llawn yn dechrau am 10 o’r gloch, ac fe fydd Busnes y Cynulliad yn cynnwys y Memorandwm, a dau gyfarfod llawn o’r Cynulliad gefn wrth gefn ddydd Mercher (Mawrth 25) a fydd yn cynnwys Sesiwn Holi’r Prif Weinidog a datganiadau gweinidogion am y coronafeirws.

Fydd dim cyfarfod llawn ddydd Mercher.

Llythyr

Yn llythyr Elin Jones at Aelodau’r Cynulliad, mae hi’n gofyn cael eu hysbysu os bydd aelodau’n absennol oherwydd salwch neu eu bod nhw’n ynysu eu hunain, a hynny er mwyn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol, gan gynnwys ymbellháu cymdeithasol yn y Siambr.

Bydd y Pwyllgor Busnes yn rhoi ystyriaeth i ffyrdd o sicrhau bod Busnes y Cynulliad yn parhau yn ystod cyfnod o ansicrwydd.

Fe fydd hyn yn cynnwys deddfu a chraffu’n ymwneud â’r coronafeirws.