Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr M4 ger Pen-y-bont ar Ogwr neithiwr (nos Lun, Mawrth 9).
Mae dyn 39 oed o Gaerdydd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl i’w gar Toyota RAV 4 adael y ffordd a tharo coed ger cyffordd 36 wrth deithio i gyfeiriad y dwyrain am oddeutu 5.55yh.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ac roedd y ffordd ynghau am rai oriau er mwyn cynnal ymchwiliad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y ffordd roedd y car yn cael ei yrru gysylltu â’r heddlu ar 101.
Mae’r heddlu wedi diolch i deithwyr am eu hamynedd.