Mae rhybudd melyn am law trwm i ddwy sir yng Nghymru ddechrau’r wythnos.
Bydd y rhybudd mewn grym o 3 o’r gloch prynhawn yfory (dydd Llun, Mawrth 9) tan ganol dydd ar ddydd Mawrth (Mawrth 10) yng Ngheredigion a Phowys.
Ond mae disgwyl glaw ledled Cymru, gyda rhai ardaloedd yn gweld hyd at 90mm o law yn cwympo.
Mae rhybudd hefyd i siroedd Abertawe, Bro Morgannwg, Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Tâf.