Mae diffoddwyr tan yn gobeithio osgoi streicio a dod i gytundeb a rheolwyr ynglŷn â faint o swyddi fydd yn cael eu torri ar draws Cymru.

Ddechrau’r wythnos teithiodd llond bws o brotestwyr o Lanelli gan gynnwys yr Aelod Seneddol lleol, Nia Griffith, i gyfarfod Awdurdod Tân Ganolbarth a Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd wrth gylchgrawn Golwg bod gan yr undeb berffaith hawl i steicio, “os oes dim ffordd arall o wneud cam ymlaen mae ganddyn nhw’r hawl i streicio neu wneud rhywbeth fel work to rule. Ond does dim effaith ar y llywodraeth os ydyn nhw’n mynd ar streic – effeithio ar bobol gyffredin fyddan nhw. Ond dw i’n deall pam bod pobol yn grac a’r unig ffordd i ddangos eu dicter yw mynd ar streic.”

Mae’r Awdurdod eisoes wedi dweud eu bod yn bwriadau torri 15 o swyddi yng ngorsaf dân Llanelli drwy newid rota gwaith. Mae aelodau Undeb y Diffoddwyr Tân wedi dechrau trafod gyda’r swyddogion ac mae disgwyl i drafodaethau tebyg yn dechrau yn y gogledd wythnos i heddiw.

Yn ôl Arwel Roberts, Trysorydd yr undeb yn y gogledd, mae’r Awdurdod yn sôn am dorri rhwng 22 a 36 o swyddi llawn amser.

“Rydan ni eisiau i’r ffigwr fod yn nes at 22 na 36, dydan ni ddim yn mynd i sôn am streicio (neu beidio) tan ar ôl i’r trafodaethau ddod i ben. Ar y funud ydan ni’n gobeithio dod i gytundeb a cheisio lleihau’r nifer fydd yn colli eu gwaith.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 27 Hydref