Huw Jones, Cadeirydd S4C
Mae’r cytundeb sydd wedi’i daro rhwng S4C, Ymddiriedolaeth y BBC a llywodraeth San Steffan yn cynnig sefydlogrwydd i’r sianel nes 2017, yn ôl Cadeirydd awdurdod y Sianel.

“Gallwn fod yn hyderus bod y cytundeb yn sicrhau annibyniaeth olygyddol ac ariannol S4C yn y peirianwaith sydd wedi’i greu drwy’r cytundeb yma,” meddai Huw Jones.

“Mae sicrwydd ariannol, er ar delerau tynn, sy’n mynd i fyny at 2017… a doedd hynny ddim o angenrheidiol yn mynd i fod yn rhan o’r cytundeb achos mai cytundeb ynglŷn â’r trefniadau at 2015 oedd yn wreiddiol.”

O dan y cytundeb gydag Ymddiriedolaeth y BBC fe fydd y sianel yn cael £75.25miliwn o arian y drwydded deledu ar gyfer 2015/16 sy’n gostwng i £74.5miliwn rhwng 2016/17 pan fydd Siarter presennol y BBC yn dod i ben.

“Mae siarter newydd i’r BBC yn ddigwyddiad anferth ac yn digwydd bob deng mlynedd,” meddai Huw Jones i’r awgrym y bydd dyfodol S4C ynghlwm wrth y BBC. “mae’n agor y drws i bob math o drafodaethau ynglyn a darlledu cyhoeddus yn gyffredinol. Felly mae’n gwbl briodol bod dyfodol S4C yn cael ei drafod yn y cyd-destun yna.”

“Mae 2017 yn gyfnod eitha’ pell ac rydan ni’n teimlo ein bod wedi cyflawni rhywbeth sy’n cynnig sicrwydd rhesymol i ni am gyfnod sylweddol o amser.”

Ond o gofio hanes diweddar S4C a’r penderfyniad sydyn i’w throsglwyddo i ofal y BBC a oes lle i bryderu am y dyfodol?

“Dw i wedi siarad â’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystod y dyddiau diwethaf,” meddai Huw Jones,  “Un o’r pethau ddywedodd yn benodol oedd ei fod yn dymuno gweld y trafodaethau sy’n arwain at Siarter newydd y BBC yn sicrhau bod dyfodol i wasanaethau cyfryngol Cymraeg yn gyffredinol.”

Darllenwch weddill y cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg, 27 Hydref