Mae cwmni siocled Snickers UK wedi ymddiheuro ar ôl postio neges sarhaus am y Gymraeg yn ddiweddarach heddiw.

Fe wnaethon nhw ofyn i’w dilynwyr ddweud y gwahaniaeth rhwng enwau llefydd Cymraeg ac “eistedd ar fysellfwrdd”.

Roedden nhw wedi derbyn sawl cwyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn yr helynt, a chafodd y neges ei dileu yn fuan ar ôl iddi gael ei phostio.

Ymateb

“Gan bawb yn Snickers UK, hoffem ymddiheuro i bawb gafodd eu pechu gan ein trydariad diwethaf, mi wnaethom gamfarnu’r sefyllfa ac rydym yn dal ein dwylo i fyny,” meddai’r cwmni mewn datganiad ar Twitter.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’n holl gefnogwyr Cymreig yn y Deyrnas Unedig ac o amgylch y byd, ac yn gado na chaiff trydariad anwybodus fel hyn sbwylio ein perthynas yn y dyfodol.”