Sachau cocos
Mae dau ddyn wedi cael eu holi am geisio codi cocos yn anghyfreithlon o aber afon Dyfrdwy.

Fe gawson nhw eu hatal neithiwr gan swyddogion o Asiantaeth Amgylchedd Cymru a Heddlu Glannau Mersi.

Yn ôl yr awdurdodau, roedd gweithredoedd y ddau’n beryg bywyd yn ogystal â bod yn groes i’r gyfraith.

Fe gafodd offer casglu cocos eu cipio ynghyd â thair sach o gocos sydd wedi eu rhoi’n ôl yn y tywod.

‘Peryglus’

Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd, roedd y ddau ddyn 23 a 29 oed o ardal Y Fflint yn peryglu bywoliaeth casglwyr cocos cyfreithlon ac yn peryglu eu bywydau eu hunain yr un pryd.

“Mae’n anhygoel o beryglus i geisio mynd i’r gwelyau cocos heb yr wybodaeth arbenigol sydd gan y casglwyr trwyddedig,” meddai llefarydd. “Maen nhw wedi pysgota yma ers blynyddoedd ac yn adnabod y llanw a’r mannau peryglus.”