Mae achos arall o wenwyno ci wedi cael ei gofnodi yn Abertawe, yn dilyn sawl achos tebyg dros yr wythnosau diwethaf.

Ardal Picket Mead ger Newton yn y Mwmbwls sydd dan sylw’r tro hwn, yn dilyn neges Facebook gan y Cynghorydd Will Thomas.

Fe ddigwyddodd yr achosion eraill yn ardalodd Clyn a Chasllwchwr.

‘Byddwch yn ofalus’

“Fe fyddwch chi’n ymwybodol efallai fod sawl ci yng Ngerddi Clyn a Chasllwchwr wedi cael eu gwenwyno yr wythnos ddiwethaf ac wedi marw, yn drist iawn,” meddai’r cynghorydd.

“Mae’n ymddangos fod hyn wedi digwydd hefyd yn Picket Mead ddydd Gwener (Chwefror 21).

“Yn amlwg, mae wedi achosi cryn dipyn o alar i’r perchennog a’r cerddwr, a dw i’n estyn fy nghydymdeimlad iddyn nhw.

“Fe wnaeth warden cŵn y cyngor ymweld â’r Mead (a safleoedd eraill) ond wnaeth e ddim dod o hyd i wenwyn, ond mae e wedi dod o hyd i ffoil tun wedi’i wasgaru o amgylch yr ardal ac yn credu y gall fod wedi cael ei ddefnyddio i osod cig â gwenwyn arno.

“Dw i’n sicr y bydd pawb yn Newton a’r Mwmbwls wedi cael cymaint o sioc â fi ynghylch y drosedd neu ddamwain ofnadwy hon.

“Os ydych chi’n gweld unrhyw beth amheus, plis rhowch wybod i’r heddlu a byddwch yn fwy gofalus nag arfer wrth gerdded eich cŵn.”