Llifogydd: Pobol sydd wedi’u heffeithio yn cael hyd at £1,000

Diweddarwyd  
Heol y Cei, Caerfyrddin

Heol y Cei, Caerfyrddin mewn llifogydd yn sgil Storm Dennis

Llun: golwg360

Fe fydd pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd yn sgil Storm Ciara a Dennis yn derbyn hyd at £1,000 gan Lywodraeth Cymru.

Bydd pob cartref ledled Cymru sydd wedi dioddef oherwydd llifogydd yn derbyn £500. Bydd £500 ychwanegol yn cael ei roi i’r rhai heb yswiriant tŷ. Bydd pobl yn derbyn taliad cychwynnol o fewn 24 awr.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pobol wedi eu heffeithio i siarad â thimau cymorth brys awdurdodau lleol yn y lle cyntaf. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn rhan ‘Llifogydd Chwefror’ ar wefan Llywodraeth Cymru.

“Colled”

Dywedodd  Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ar ôl bod i ymweld â’r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio: “Pan wnes i gyfarfod â’r bobl yn y cymunedau sydd wedi cael eu taro gan y llifogydd yr wythnos diwethaf, gwelais drosof fi fy hun y pwysau, y straen a’r golled mae pobl yn ei deimlo. Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu nhw yn ystod y cyfnod anodd tu hwnt yma.

“Gwelais hefyd y pwysau eithriadol mae pobl yn ei deimlo os nad oes ganddyn nhw yswiriant neu os nad ydi eu polisïau yswiriant nhw yn talu mewn achos o lifogydd. I helpu’r bobl hynny, rydym yn darparu arian ychwanegol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu cronfa argyfwng o £10 miliwn i helpu gydag effeithiau di-oed y llifogydd, ond mae costau difrod i adeiladau a’r arian sydd ei angen i ddelio ag â’r argyfwng newid hinsawdd yn mynd lawer pellach na hyn.”

Mae Mark Drakeford wedi bod yn feirniadol o ymateb araf y Llywodraeth yn San Steffan i effeithiau’r llifogydd yng Nghymru.

“Ar ôl wythnos o dawelwch yn wyneb yr argyfwng yma, mae angen i ni glywed ar fyrder beth fydd y gefnogaeth y dylai ein cymunedau ni ei ddisgwyl gan Lywodraeth Prydain.”

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones