Pencadlys Cyngor Gwynedd
Mae cyngor wedi dechrau ymgynghori ar gynllun i gau pedair ysgol fach wledig a chreu un ysgol ardal newydd ar ddau safle.

Bwriad Cyngor Gwynedd yw cau ysgolion Rhydymain a Llanfachreth ger Dolgellau a symud y plant i ysgol ardal newydd gyda safleoedd yn y Brithdir a Dinas Mawddwy.

Mae’r cyngor yn dweud y byddai adeilad cwbl newydd yn cael ei godi ar gyfer dosbarthiadau yn y Brithdir a’r adeiladau presennol yn cael eu troi’n neuadd, cegin a ffreutur.

Fe fyddai meysydd chwarae newydd hefyd, gan gynnwys maes chwarae medal i blant bach yn y Cyfnod Sylfaen.

‘Cyfleusterau’r 21 ganrif’

“Byddai’r buddsoddiad sylweddol hwn yn sicrhau bod disgyblion ac athrawon yn mwynhau cyfleusterau’r 21ain ganrif o’r safon uchaf,” meddai arweinydd portfolio addysg Gwynedd, Liz Saville Roberts.

Bydd yr ymgynghoriad statudol yn cael ei gynnal rhwng nawr a 25 Tachwedd, ac mae’r cyngor yn gofyn i bob un sydd eisiau cyfrannu sylwadau wneud hynny erbyn un y prynhawn hwnnw.

Mae’r cyngor hefyd yn bwriadu holi barn disgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr yr ysgolion.

Yn wahanol i ardaloedd eraill yng Ngwynedd, does dim gwrthwynebiad mawr wedi bod i’r cynlluniau hyd yn hyn.