Fe fy
Pobol yng Nghaerdydd
dd poblogaeth Cymru’n cynyddu o tua 10% yn ystod y chwarter canrif nesa’, yn ôl ffigurau swyddogol.

Mae hynny’n golygu cynnydd o tua 3 miliwn o bobol ar hyn o bryd i fwy na 3.3 miliwn yn 2035.

Yn yr un cyfnod, mae disgwyl i boblogaeth gwledydd Prydain godi o fwy na 62 miliwn yn awr i fwy na 73 miliwn yn 2035.

Mae hynny’n cynnwys cynnydd o tua 200,000 y flwyddyn oherwydd mudo – y gwahaniaeth rhwng y bobol sy’n symud i wledydd Prydain a’r rhai sy’n gadael.

Mae hynny’n fwy na 5 miliwn o bobol rhwng 2010 a 2035.

Heneiddio

Fe fydd y boblogaeth hefyd yn mynd yn hŷn, yn ôl yr amcangyfrifon sydd wedi eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.

Yng Nghymru, erbyn y 2040au, fe fydd hanner y boblogaeth tua 45 oed neu hŷn – yn uwch na’r cyfartaledd trwy wledydd Prydain.

Yn ystod yr 20 mlynedd nesa’, mae disgwyl i fwy gael eu geni yng Nghymru nag sy’n marw, ond fe fydd y ddau ffigwr yn dod ynghyd ar ôl hynny a nifer y marwolaethau’n fwy erbyn 2051.