Menna Machreth
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud eu bod nhw’n ystyried rhoi’r gorau i’w hymgyrch i wrthod talu’r drwydded deledu, a gychwynwyd  mewn protest yn erbyn y trefniant newydd rhwng BBC ac S4C.

Mewn datganiad gan Gymdeithas yr Iaith, dywedodd y Cadeirydd, Bethan Williams, eu bod nhw’n mynd i gwrdd ag ymgyrchwyr sydd wedi bod yn gwrthod talu’r drwydded ddydd Sadwrn, er mwyn trafod y camau nesaf.

Ymgynghori

“Yn wahanol i’r BBC, S4C a Llywodraeth Llundain, rydym ni yn ymgynghori gyda’r sawl sydd wedi bod yn rhan o’r ymgyrch i wrthod talu’r drwydded deledu, ac yn eu gwahodd i gyfarfod Senedd Cymdeithas yr Iaith Ddydd Sadwrn, 29 Hydref, neu i anfon eu barn atom cyn i ni ddod i benderfyniad ynghylch dyfodol yr ymgyrch.”

Daw’r penderfyniad yn sgil cyhoeddiad ar y cyd gan y BBC ac S4C heddiw eu bod nhw’n croesawu amodau’r cytundeb newydd, sydd i bennu cyllideb S4C, a threfn lywodraethu y BBC â’r sianel, hyd at 2017.

“Dan yr amodau yr oedd Jeremy Hunt wedi eu gosod, mae’r setliad ariannol yn llawer gwell na beth o’n i wedi disgwyl,” meddai Menna Machreth ar ran Cymdeithas yr Iaith, wrth Golwg 360.

‘Rhaid i’r BBC gadw eu gair’

“Mae hynny oherwydd yr ymgyrchu brwd sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod,” meddai.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio hyd yn oed os fyddan nhw’n penderfynu rhoi gorau i’r ymgyrch ddydd Sadwrn, nad hynny fydd diwedd y gân os yw dyfodol S4C yn cael ei beryglu.

“Os oes unrhyw awgrym bod y BBC yn cymryd mantais ar y cytundeb ag S4C, fyddwn ni’n dychwelyd at yr ymgyrch,” meddai Menna Machreth.

“Mae’r setliad yn bodloni am y tro, ond ar yr amod bod y BBC yn cadw’u gair.

“Byddwn ni nawr yn canolbwyntio ar graffu yn y tymor byr,” meddai wrth Golwg 360, “ond beth y’n ni dal moyn yw datganoli darlledu, fel bod trefn darlledu yng Nghymru yn cael ei phenderfynu gan bobol Cymru.”