Mae dyn ddyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â gwrthdrawiad difrifol ar ffordd yr A4231 ger Y Barri bore ma (dydd Llun, Chwefror 3).

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 4yb ac mae Heddlu’r De yn rhybuddio y bydd y ffordd ynghau am rai oriau. Maen nhw’n cynghori gyrwyr i osgoi’r ardal am y tro.

Mae’r ffordd ynghau o McDonalds hyd at y goleuadau traffig yn Heol Coldbrook East.

Cafodd dau ddyn 35 a 26 oed eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.