Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn fore heddiw (dydd Sul, Chwefror 2).

Bu farw’r dyn yn ei 20au yn y digwyddiad un cerbyd ar y ffordd rhwng Pentreuchaf a Llithfaen am 1.52yb.

Aeth yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth tân i safle’r gwrthdrawiad, ond bu farw’r dyn lleol yn y fan a’r lle.

Mae’r heddlu wedi estyn eu cydymdeimlad i’r teulu, gan ddweud bod ymchwiliad wedi’i gynnal.

Maen nhw’n apelio am dystion oedd yn teithio ar y ffordd rhwng 1yb a 2yb.