Fe fydd nyrs o Ynys Môn yn cael clywed heddiw a fydd hi’n cael cario ymlaen i weithio.

Fe fydd panel o’r Cyngor Nyrsio a Bydwreicaeth yn penderfynu a yw Victoria Horsley’n cael aros ar y gofrestr feddygol ai peidio.

Mae panel disgyblu wedi penderfynu ei bod yn euog o ganiatáu i dri bachgen yn eu harddegau yrru ei char gwaith.

Ond maen nhw wedi gwrthod honiadau ei bod wedi cael rhyw gydag un o’r bechgyn – yn ôl y panel, roedd “anghysonderau” yn nhystiolaeth y bachgen.

Yn ôl cyfreithiwr y nyrs, roedd Victoria Horsley, 36 oed, yn nyrs dda a oedd wedi ymateb o dan bwysau mewn “amgylchiadau unigryw”.