Mae llawer o bobol yn dathlu Dydd Santes Dwynwen erbyn hyn – dyna’r dystiolaeth o arolwg ar-lein cyflym gan golwg360.
Ac mae nifer sylweddol o fenywod sy’n rhan o rwydwaith Cymraeg ar-lein yn dweud eu bod nhw – a’u partneriaid – yn nodi’r ŵyl.
Fe ofynnon ni’r cwestiwn ar y cyfryngau cymdeithasol – ydy pobl yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen?
O blith 421 o atebion gan aelodau Rhwydwaith Menywod Cymru, fe ddywedodd 390 – sef 92.6% – eu bod yn “gwneud rhywbeth”.
Y Canlyniadau
Aeth rhai ati i nodi’n fwy manwl beth yr oedden nhw’n ei wneud. Roedd hynny’n cynnwys …
- Cyfnewid cardiau
- Pryd o fwyd – mewn bwyty neu ‘tecawe’
- Bwyd a chardiau
- Noson o wyliau bach yn rhywle
- Cofnododd Annaly Jones, perchennog newydd Tafarn y Railway yn Nantgaredig, eu bod nhw yn cynnig bwydlen arbennig yn llawn cynnyrch Cymreig.
- Ac mae un cwpwl yn codi ‘coeden Dwynwen’ yn y tŷ ac yn ei haddurno gyda chalonnau a’r gair ‘cariad’ arnyn nhw.
Ar y llaw arall, fe ddywedodd 15 o’r holl ymatebwyr nad oedden nhw’n meddwl am y diwrnod ac roedd dau yn meddwl mai “nonsens” yw’r holl beth.
Digwyddiadau
Cofnododd rhai eu bod yn mynd i ddigwyddiadau oedd wedi cael eu trefnu’n arbennig, er enghraifft:
- Noson Siôn a Sian ym Methesda
- Gweithdy Crefft yng Nghaerdydd (roedden nhw’n hysbysebu’n Saesneg er mwyn denu unigolion di-Gymraeg i ddysgu am Santes Dwynwen)
- Disgo ysgol i’r plant
- Cyngerdd Côr y Penrhyn yn Llanfairfechan
FIDEO