Mae Heddlu’r De yn ymchwilio yn dilyn ymosodiad ar fachgen 17 oed yn Llanedern ger Caerdydd nos Sul (Ionawr 19).

Cafodd y bachgen ei gludo i’r ysbyty ar ôl cael ei drywanu ond mae’n debyg nad yw ei anafiadau yn rhai sy’n bygwth ei fywyd.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tua 11yh nos Sul ar ystâd Ael y Bryn, Llanedern.

Nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio hyd yn hyn ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.