Ian Brown
Mae Ian Brown, canwr gyda’r grŵp Stone Roses, wedi cael dirwy o £650 a chwe phwynt ar ei drwydded ar ôl cael ei ddal yn gyrru ar gyflymder o 105 milltir yr awr.

Roedd Brown, 48, o Lymm yn Swydd Gaer wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad o dorri’r cyfyngiad cyflymder ar draffordd yr M6 ar 25 Ebrill am 12.35am.

Roedd Brown wedi osgoi cael ei wahardd rhag gyrru  ar ol i’w gyfreithiwr Nick Freeman ddadlau y byddai gwaharddiad yn achosi problemau mawr i’r canwr pan fyddai’n mynd i weld ei fab 11 oed sy’n byw yn Llundain gyda’i fam. Fe fyddai hefyd wedi achosi trafferthion wrth iddo fynd i ymarfer gyda’r Stone Roses “mewn lleoliad cudd ac anghysbell”, yn ol ei gyfreithiwr.

Wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd y Stone Roses eu bod yn ail-ffurffio ar ôl i’r grŵp chwalu 17 mlynedd yn ôl. Ar ôl y cyhoeddiad cafodd  225,000 o docynnau eu gwerthu o fewn awr ar gyfer eu cyngherddau yn Heaton Park, Manceinion.

Roedd Ian Brown ar un adeg yn byw yn Llithfaen ger Pwllheli.