Mae’r cyn-newyddiadurwr a golygydd llyfrau, Ioan Roberts, wedi marw yn 78 oed.

Roedd yn dod o Roshirwaun ym Mhen Llyn yn wreiddiol ac yn byw ym Mhwllheli. Bu farw’n sydyn ddydd Sul (Rhagfyr 29) yng nghwmni ei deulu.

Roedd wedi gweithio fel prif ohebydd Y Cymro ac yn olygydd rhaglen newyddion Y Dydd ar HTV, cyn dod yn olygydd newyddion BBC Radio Cymru ac ar raglenni materion cyfoes HTV.

Fe fu hefyd yn gyd-gynhyrchydd y rhaglen Hel Straeon ar S4C gyd Wil Owen, ac wedi’r cyfnod hwnnw bu’n olygydd llyfrau. Ioan Roberts oedd golygydd y llyfr ar hanes y gyfres C’Mon Midffild a’r gyfrol yn dilyn hanes bywyd y ffotograffydd Philip Jones Griffiths yn ogystal â thair cyfrol o waith ffotograffydd Y Cymro Geoff Charles.

Roedd Alun Ffred Jones wedi cydweithio gyda Ioan Roberts ar raglen newyddion Y Dydd ac yn ddiweddarach pan oedd yn Aelod Cynulliad Arfon.

“Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y gwledydd Celtaidd a chyfeillion yn yr Alban ac Iwerddon lle’r oedd o’n treulio pob haf ar ei wyliau gyda’i deulu. Roedd ganddo gylch eang o ffrindiau a chydnabod ac yn gwmnïwr difyr a diddan a llond gwlad o straeon bob amser.

“Fe fydd colled fawr ar ei ôl.”

“Newyddiadurwr praff”

Dywedodd y newyddiadurwr Dylan Iorwerth: “Roedd o’n gymeriad mawr, yn newyddiadurwr praff ac yn sgwennwr da. Doedd o ddim yn licio nonsens ac yn fodlon dweud hynny hefyd. Ar ben hynny, roedd o’n hwyl fawr i fod yn ei gwmni ond y tu ôl i’r wên a’r tynnu coes, roedd ganddo fo feddwl craff.”

Bu’r newyddiadurwr Lyn Ebenezer yn gweithio gyda Ioan Roberts ar Y Cymro a Hel Straeon. Mewn cyfweliad ar y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru, dywedodd ei fod yn “ffrind agos” a “dyn teulu” a’r “gorau i fi gydweithio ag e yn sicr.”

“Yr hyn oedd yn gwneud Ioan yn newyddiadurwr oedd bydde fe byth yn troi lan i stori heb iddo fe ymchwilio iddi yn drwyadl. Roedd yn gwybod yn union beth oedd e moyn o’r dechrau… Roedd yn bleser gweithio gydag e.”

Mae’n gadael gwraig, y delynores Alwena Roberts, a dau o blant ac ŵyr.