Mae dynes o Waunarlwydd a fyddai’n dathlu ei phen-blwydd yn 110 fory, wedi marw.
Cafodd Esther Vickery ei magu ar fferm, a phriododd ffermwr. Bu farw ei gŵr, Tom, yn 1964, a symudodd Esther i fyw i Waunarlwydd. Symudodd i fyw i gartref Tŷ Waunarlwydd ar ôl anafu ei hun wrth gwympo.
Mae Mrs Vickery yn gadael un mab sydd wedi ei goroesi, chwech o wyrion, a 12 o or-wyrion.
Ar ei phen-blwydd yn 109 oed, dywedodd ei bod wedi byw yn hir oherwydd ei ffydd yn Nuw, yn ogystal â’i ffordd o fyw cymhedrol.
Meddai Jane Thomas o gartref Tŷ Waunarlwydd, “Mae wedi bod yn bleser edrych ar ei hôl. Mae hwn yn amser trist i ni i gyd.”