Mae Heddlu De Cymru yn galw am dystion i ddamwain ddiwedd prynhawn y Nadolig pan gafodd dyn 48 oed ei ladd.

Roedd y gwrthdrawiad wedi digwydd ar gyffordd ar yr A465 yn agos at Fynachlog Nedd, Castell Nedd, pan aeth Toytoa Aygo du a VW Beetle coch yn erbyn ei gilydd gan daro cerddwr yr un pryd.

Fe gafodd y ffordd gyfan ei chau ac mae’r heddlu’n gofyn am dystion ac, efallai, luniau o gamera dashfwrdd.