Ar derfyn gŵyl ffilmiau yn Sain Ffagan, mae’r trefnwyr wedi galw am roi’r hyder i blant greu mwy o ffilmiau yn yr iaith Gymraeg.

Bu dangosiad arbennig o Deian a Loli, sef ffilm Nadolig S4C eleni, mewn sawl ysgol Gynradd er mwyn hybu’r defnydd o Gymraeg yn gymdeithasol.

Ond mae trefnwyr yr ŵyl am weld pobol ifanc yn creu eu ffilmiau Cymraeg eu hunain.

“Rydym angen rhoi’r hyder i bobl ifanc greu ffilmiau yn Gymraeg,” meddai Pennaeth Into Ffilm Cymru, Non Stevens.

“Mae’n bwysig fod pobl ifanc o bob math o gefndiroedd gwahanol yn cael cyfle i ddangos eu talentau a’u rhannu nhw i gynulleidfaoedd.”

Dywed Non Stevens fod mentrau megis Hansh yn dystiolaeth fod modd i bobol ifanc greu deunydd llwyddiannus.

Ychwanegodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: “Rwy’n falch iawn o ymuno ag Into Film i annog plant i greu cynnwys Cymraeg ar wahanol lwyfannau darlledu a chyfryngau cymdeithasol.”