Mae ymgeisydd Ceidwadol Dwyfor Meirionydd wedi ceryddu’r “ymosodiadau anaeddfed” ar ymgeiswyr y blaid yng Nghymru.

Mae Tomos Davies yn galw ei hun yn “wladgarwr” ac yn “synnu” bod Cymry ar gyfryngau cymdeithasol wedi awgrymu ei fod yn “rhyw Geidwadwr o Loegr”.

Tros yr wythnosau diwethaf mae’r gŵr hwnnw ac ymgeiswyr Ceidwadol eraill wedi cael eu beirniadu am nad ydyn nhw’n byw yng Nghymru, ac mae’n teimlo dylai’r cyhoedd anwybyddu hynny.

“Dw i’n mawr obeithio fydd pobol ddim yn talu fawr o sylw i’r ymosodiadau anaeddfed yma ac yn hytrach yn ffocysu ar gymeriad yr ymgeiswyr,” meddai Tomos Davies.

“Yn fy achos i [dw i’n gobeithio wnawn nhw ganolbwyntio ar] fy nghymeriad i a fy nghefndir i fel Cymro Cymraeg balch sydd yn arddel ei Gymreictod…

“Ac ar ddiwedd y dydd, cymeriad sydd yn cyfri fwyaf, a’ch gweledigaeth a’ch blaenoriaethau. Felly dw i ddim yn talu gormod o sylw i’r ymosodiadau anaeddfed.”

Ychwanega Tomos Davies bod y cyfryngau cymdeithasol yn rhoi “rwydd hynt i bobol ledaenu anwireddau” ac i fod yn “ddigon pigog ac ymosodol at ymgeiswyr”.

Dwyfor Meirionydd

Er bod Plaid Cymru wedi cadw gafael cadarn ar Ddwyfor Meirionydd ers i’r etholaeth gael ei sefydlu, mae Tomos Davies yn ffyddiog am ei obeithion.

“Digon yw digon dw i’n credu,” meddai. “Mae pobol wedi bod yn pleidleisio yn ufudd iawn i Blaid Cymru yn y Cynulliad … ac mewn etholiadau lleol i Gyngor Gwynedd.

“Ac maen nhw’n gwerthfawrogi erbyn hyn, nad yw’r gefnogaeth yna wedi talu ar ei ganfed ac wedi cynhyrchu unrhyw ganlyniadau neu newid.

“Dw i’n credu – ac yn mawr obeithio – y bydd pobol yn edrych ar ein hymgeisyddiaeth yn wahanol eleni ac yn gwerthfawrogi bod yna ddyn ifanc sydd gyda thân yn ei fol, gweledigaeth, ac egni, a fydd yn llysgennad ac yn bencampwr dros etholaeth Dwyfor Meirionydd oddi fewn i’r Llywodraeth.”

Yn sefyll tros Blaid Cymru mae Liz Saville Roberts, tros Blaid Brexit mae Louise Hughes, a thros Lafur mae Graham Hogg.