Mae’r wasg yn Sbaen yn lladd ar Gareth Bale ar ôl iddo ddathlu cyrraedd Ewro 2020 gyda Chymru â baner yn dwyn y geiriau “Cymru. Golff. Madrid: yn y drefn honno”.

Mae’r Cymro’n cael ei gyhuddo o “wneud sbort am ben” ei glwb, gyda rhai yn dadlau y dylai gael ei gosbi am eu “dirmygu” ac am “ladd ar y clwb”.

Ond yn ôl Marca, mae’r ymosodwr yn “amharchus, anghywir, anniolchgar”, wrth adleisio’r faner.

Mae’n annhebygol y bydd yn cael ei gosbi gan fod y berthynas rhyngddo fe a’r rheolwr Zinedine Zidane y tu hwnt i gael ei thrwsio beth bynnag.

Dyw e ddim wedi chwarae i’w glwb ers iddo gael ei anafu wrth chwarae i Gymru fis diwethaf.

Ond roedd e ar gael ar gyfer gemau rhagbrofol Cymru yn erbyn Azerbaijan a Hwngari yr wythnos hon.

Fe wnaeth e gorddi’r cefnogwyr yr wythnos ddiwethaf drwy awgrymu bod yn well ganddo fe chwarae dros Gymru na Real Madrid.

Dyfodol y chwaraewr

Yn ôl Jonathan Barnett, asiant Gareth Bale, mae’r rheolwr Zinedine Zidane yn “warthus” am ddweud ym mis Gorffennaf fod y clwb yn gwneud trefniadau i symud y Cymro o’r clwb.

Roedd disgwyl iddo symud at glwb Jiangsu Suning yn Tsieina, lle byddai’n derbyn £1m yr wythnos dros gyfnod o dair blynedd, ond fe ddaeth y trafodaethau i ben ar yr unfed awr ar ddeg.

Sgoriodd e ddwywaith mewn chwe gêm wedi hynny.

Mae ganddo fe gytundeb hyd at fis Mehefin 2022, ond fe allai symud ym mis Ionawr, gyda nifer o glybiau yn Tsieina a’r Unol Daleithiau’n dangos diddordeb.