Mae Oli McBurnie, cyn-ymosodwr tîm pêl-droed Abertawe, yn gwadu yfed a gyrru.

Fe gyflwynodd ei ble yn ystod gwrandawiad yn Llys Ynadon Leeds heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 6).

Clywodd y llys ei fod e wedi’i gyhuddo o fod ag un a hanner gwaith yr uchafswm alcohol cyfreithlon i yrru pan gafodd ei stopio ar Hydref 18.

Bydd y pêl-droediwr, sydd bellach yn chwarae i Sheffield United, yn mynd gerbron ynadon eto ar Fawrth 16, 2020.