Mae angen mwy o “gydraddoldeb” rhwng addysg cyfrwng Saesneg a Chymraeg yn ardal Merthyr Tudful, yn ôl un rhiant.

Mae Mark Ward yn gadeirydd ar gangen y grŵp Rhieni dros Addysg Gymraeg ym Merthyr Tudful, a gafodd ei sefydlu dim ond rhai wythnosau yn ôl.

Yn y cyfarfod cyntaf fe fynegwyd pryderon gan rieni ynglŷn â’r “diffyg cynllunio” gan Gyngor Merthyr Tudful i sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bawb o fewn y fwrdeistref.

Ar hyn o bryd, dim ond dwy ysgol gynradd Gymraeg sydd ym Merthyr Tudful, sef Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-Grug yn Aberfan, ac Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful.

Does gan yr ardal yr un ysgol uwchradd Gymraeg, ac mae’n rhaid i ddisgyblion sydd eisiau derbyn addysg uwchradd Gymraeg deithio i Ysgol Gyfun Rhydywaun yn Rhondda Cynon Taf.

Galw am fwy o ysgolion Cymraeg

Mewn llythyr a gyhoeddwyd yn dilyn y cyfarfod, mae’r gangen RhAG newydd yn galw am y canlynol:

  • ymgyrch hysbysebu er mwyn hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ym Merthyr Tudful;
  • sicrhau bod yna ddarpariaeth ddigonol o addysg Gymraeg ar gyfer plant oed cynradd;
  • sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Merthyr Tudful.

Wrth siarad a golwg360, dywed Mark Ward fod yna “wir angen” am fwy o addysg Gymraeg ym Merthyr Tudful wrth i fwy a mwy o rieni anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg.

“Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful yw’r brif ysgol yn y dref ei hun yng ngogledd y fwrdeistref, ac mae ganddi bron i 460 o ddisgyblion ac yn dal i dyfu,” meddai Mark Ward.

“Mae fy merch newydd ddechrau yn y Dosbarth Derbyn, ac mae tua 75 yn yr un flwyddyn â hi – bron i dri dosbarth.

“Mae’r cyngor wedi gorfod gosod dosbarthiadau dros dro ar safle’r ward, ond mae’r broblem yn mynd i barhau ar hyd y blynyddoedd.

“Wrth i’r plant hynny wneud eu ffordd drwy’r ysgol, fydd yna byth digon o ddosbarthiadau ar eu cyfer.”

Cyngor Merthyr Tudful – trydedd ysgol gynradd ar y ffordd

Mewn ymateb, dywed Cyngor Merthyr Tudful fod “amcanion clir” wedi eu nodi yn eu Cynllun Strategaeth Cymraeg mewn Addysg o ran hyrwyddo addysg Gymraeg ledled y fwrdeistref.

Mae’r cyngor hefyd wedi sicrhau cyllid ar gyfer sefydlu trydedd ysgol gynradd Gymraeg, meddai llefarydd.

“Drwy gyfrwng cynlluniau cyfalaf Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymgeisio a sicrhau mwy o gyllid er mwyn ehangu dau o’n darparwyr addysg cynradd cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â sicrhau cyllid ar gyfer trydedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng ngogledd y sir.

“Bydd y drydedd ysgol yn dechrau fel ysgol hedyn, ac wrth i’r ysgol hon dyfu fe fydd yna drafodaethau pellach ynglŷn â’r cydweithio llwyddiannus a hir sefydledig gyda Rhondda Cynon Taf ar gyfer plant oedran uwchradd.”