Cartref Ysgol Ffinneg Caerdydd
Bydd ysgol Ffinneg newydd ar agor yng Nghaerdydd ar rai dyddiau Sadwrn tan mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Mae’r gymuned Ffinneg yn y brifddinas wedi agor y Suomi-koulu (ysgol Ffinneg) yn adeilad Eglwys Bethel yn Llanishen yn y boreau er mwyn rhoi’r cyfle i blant a phobl mewn oed ddysgu am eu treftadaeth.

Mae croeso hefyd i bobl sydd am ddysgu’r iaith o’r cychwyn cyntaf.

Bydd yr ysgol yn cynnig dosbarthiadau iaith ar gyfer oedolion tra bo’r plant bach yn dysgu’r iaith mewn sesiynau chwarae.

Mae safon uchel system addysg y Ffindir yn cael ei gydnabod ym mhedwar ban byd ac mae’r gymuned Ffinaidd yng Nhgaerdydd yn gobeithio ehangu’r ddarpariaeth os oes galw.

Dywedodd Kaisa Pankakoski ar ran yr ysgol eu bod yn awyddus iawn i’r plant dyfu yn ddwyieithog neu hyd yn oed yn dairieithog.

“Mae hybu dwy a thair ieithrwydd, Saesneg, Cymraeg a Ffinneg yn rhan bwysig o hyn. Mae yna lawer o bobl y Ffindir yn gallu siarad pum neu chwech iaith ac fellly dyma rhywbeth y gallwn ei wneud yma hefyd.”