Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei cheryddu am “gefnogi a chymryd rhan” mewn ffair yn Llundain “sy’n masnachu marwolaeth”.

Cyfeirio mae Leanne Wood, Aelod Cynulliad Plaid Cymru, at ffair arfau Defence and Security Equipment International (DSEI), lle fydd gan Lywodraeth Cymru bresenoldeb eto eleni.

Mae’r digwyddiad, sy’n dod i ben heddiw (dydd Gwener, Medi 13), yn cael ei gynnal bob dwy flynedd, ac yn cael ei noddi gan Weinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig.

“Rydym yn adnabod gwerth cefnogi ein cwmnïau awyr ofod a seibr ddiogelwch yn y digwyddiad yma,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Cymru yn “gonglfaen”

Ers wyth mlynedd bellach mae Llywodraeth Cymru wedi bod â phresenoldeb yn y Ffair Arfau, a mynychodd gweinidogion y digwyddiad yn 2015 a 2017.

Ar eu gwefan mae DSEI yn dweud bod Cymru yn “gonglfaen i ymgyrchoedd amddiffyn y Deyrnas Unedig, trwy hyfforddi gweithlu amddiffyn y dyfodol.”

Mae “safleoedd diogel a gofod awyr ar gael” yn y wlad, medden nhw, ac mae tua 100 o gwmnïau sydd ynghlwm â chreu “technoleg amddiffyn”.

Ymateb y Prif Weinidog 

Mae Mark Drakeford wedi dweud wrth y BBC mai cefnogi busnesau seibr ddiogelwch – nid masnach arfau – yw nod y Llywodraeth trwy gael stondin yn y ffair, ai fod am “ystyried” ei phresenoldeb yno.

“Mae angen bod cwmnïau yna yn gallu arddangos yr hyn sydd ganddyn nhw, ac i’r bobol sydd eisiau prynu eu hoffer – dyna pam y byddwn yn eu cefnogi yn y digwyddiad,” meddai.

“Er hynny, mi fydda i yn ystyried ai dyma yw’r ffordd gorau i gefnogi’r cwmnïau yna o hyn ymlaen.”