Mae 16 o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn cyfres o gyrchoedd gan yr heddlu ar draws y gogledd ac mewn rhannau o Lannau Merswy a’r Alban.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, fe weithredwyd 24 gwarant y bore yma (dydd Iau, Awst 5) gyda’r nod o dargedu gangiau sy’n dosbarthu cyffuriau Dosbarth A.

“Ein blaenoriaeth yw cadw ein cymunedau yn ddiogel a dw i’n sicr y bydd ein gwaith heddiw yn tawelu meddyliau pawb,” meddai’r Uwcharolygydd Mark Armstrong.

“Hoffwn ddiolch i gymunedau Sir y Fflint, Conwy, Ynys Môn, Lerpwl a’r Alban am eu hamynedd, dealltwriaeth a’u cefnogaeth wrth i’r ymgyrch fynd yn ei blaen.”