Fe fydd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn arwain gorymdaith Pride Cymru yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Awst 24) – prif weinidog cyntaf Cymru i gyflawni’r rôl.

Fe fydd e’n gorymdeithio ochr yn ochr â chynrychiolwyr o’r gymuned LGBTQ+ ac arweinwyr cymunedol o bob rhan o Gymru.

Ac fe fydd e’n annerch y gynulleidfa ar ddiwedd y digwyddiad, gan ddatgan cefnogaeth Llywodraeth Cymru i herio bwlio mewn ysgolion a gwella gwasanaethau iechyd i bobol drawsryweddol.

Mae Llywodraeth Cymru’n frwd dros addysg LGBTQ+ mewn ysgolion, ac mae’n sefydlu gwasanaeth rhywedd i helpu pobol drawsryweddol.

Mae gan ddau aelod o’r gymuned LGBT+, Jeremy Miles a Hannah Blythyn, rolau blaenllaw yn Llywodraeth Cymru, ar ôl cael eu penodi gan Mark Drakeford.

‘Mwy na dathliad’

Ar drothwy’r digwyddiad, mae Mark Drakeford yn dweud bod Pride Cymru’n “fwy na dathliad”.

“Rwy’n falch iawn o fod yn gyfaill cefnogol i bobol LGBTQ+ o bob cwr o Gymru, a gorymdeithio gyda chi,” meddai.

“Mae Pride yn fwy na dathliad, mae’n ffordd hanfodol bwysig o’n hatgoffa na ddylid cymryd unrhyw ddatblygiadau yn ganiataol. Rhaid i ni i gyd ymladd amdanyn nhw.

“Rwy’n cofio dyddiau tywyll y 1980au pan oedd llywodraeth elyniaethus a’r wasg yn dilorni ac yn bychanu dynion hoyw a lesbiaid yn rheolaidd. Heddiw, rydyn ni’n gweld tactegau llawer rhy gyfarwydd yn cael eu defnyddio yn erbyn pobl draws.

“Rhaid i ni wrthod rhagfarn o’r fath lle bynnag y bo’n bodoli yn ein cymunedau. Rhaid i ni sefyll yn gadarn yn erbyn pob ffurf ar homoffobia, biffobia a thrawsffobia.

“Gyda’n gilydd, gallwn greu Cymru lle mae pobl LGBTQ+ yn cael eu derbyn yn ddieithriad.”

‘Am ddathliad gwych’

“Am ddathliad gwych y penwythnos yma i Pride Cymru, sy’n nodi 20 mlynedd ers ei sefydlu, gyda pharêd bywiog, croesawgar a chynhwysol ynghyd â dathliadau ar strydoedd Caerdydd,” meddai Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gydraddoldeb.

“Drwy orymdeithio drwy brifddinas ein gwlad, bydd miloedd o bobl yn dangos eu hangerdd, eu hanrhydedd a’u balchder o fod yn rhydd i fynegi eu hunaniaeth heb ofn a heb ragfarn – fel y dylai fod.

“Mae digwyddiadau fel Pride nid yn unig yn arwydd o gryfder i’n cymunedau LGBT+ ond hefyd yn gyfle i drafod er mwyn dylanwadu ar bolisi ledled Cymru ac ar lefel genedlaethol.

“Byddwn yn parhau i weithio i roi sicrwydd i’n cymunedau ni oll fod cydraddoldeb wrth wraidd yr hyn ry’n ni ei wneud, y bydd amrywiaeth bob amser yn cael ei ddathlu ac nad oes lle i wahaniaethu yng Nghymru. Mwynhewch, bawb!”