Ni ddylai fod oedi mawr mewn porthladdoedd gwledydd Prydain wedi Brexit, “os ydyn ni’n gwneud y peth iawn,” meddai Michael Gove.

Roedd y gweinidog sy’n gyfrifol am baratoi ar gyfer Brexit dim cytundeb yn ymweld â phorthladd Caergybi heddiw (dydd Mercher, Awst 21)

Daeth yno i gyhoeddi y bydd £1.7m yn cael ei rannu rhwng holl borthladdoedd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn paratoi ar gyfer Brexit.

Lleddfu ofnau

Mae Michael Gove wedi wfftio pryderon y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb achosi “anrhefn llwyr” mewn porthladdoedd, gan ddweud mai dyna’r senario “gwaethaf posib”.

“Os ydym ni’n gwneud y peth iawn, dw i’n hyderus y gallwn ni ar Hydref 31 sicrhau bod nwyddau yn llifo i mewn ac allan o borthladdoedd fel Caergybi heb unrhyw oedi sylweddol,” meddai wrth y gwasanaeth newyddion, Press Association.

“Mae yna nifer fawr o senarios. Mae yna’r senario gwaethaf posib, ac rydym ni’n gwneud ein gorau i leihau’r peryg o’r senario hwnnw yn datblygu.”

Ychwanega y bydd ei lywodraeth yn ceisio sicrhau bod gan fasnachwyr yr holl wybodaeth a’r systemau sydd eu hangen er mwyn medru allforio wedi Brexit.

Ffyddiog am gytundeb newydd

Yn ystod ei ymweliad â Chaergybi, fe gafodd Michael Gove ei arwain o gwmpas y porthladd yno, cyn ymweld â safle cwmni Gwynedd Shipping a chyfarfod ag arweinwyr cynghorau’r gogledd.

Daeth ei ymweliad ar yr un diwrnod â phan mae Boris Johnson yn Ewrop yn cyfarfod â Changhellor yr Almaen, Angela Merkel.

Dywedodd Michael Gove ei fod yn ffyddiog y gallai cytundeb Brexit newydd gael ei ffurfio.

“Rydym ni am wneud ein gorau er mwyn sicrhau cytundeb, ac mae Boris yn ymweld ag Angela Merkel ac Emmanuel Macron er mwyn gweld os oes yna symud ar ochr yr Ewropeaid,” meddai.

“Ond, hyd yn hyn, dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw newid safbwynt gan yr Undeb Ewropeaidd na’i harweinwyr, felly mae’n rhaid inni baratoi’n synhwyrol rhag ofn na fydd yna gytundeb.”