Pwerdy ar Safle Pwll Glo Llwynypia
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £400,000 tuag at adfer rhai o’r adeiladau hanesyddol pwysicaf yng Nghymru.

Fe fydd y grantiau yn amrywio o £11,200 i £75,000, ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol ar yr adeiladau, yn ogystal â gwaith i’w hadfer.

Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:  “Mae’n bleser cyhoeddi bod yr adeiladau hyn wedi cael arian oddi wrth Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Bydd y grantiau’n sicrhau bod rhai o’n hadeiladau pwysicaf yn cael eu cynnal a’u cadw er budd y cenedlaethau a ddêl.”

Ymhlith y  prosiectau sydd wedi derbyn grant mae’r Pwerdy ar Safle Pwll Glo Llwynypia, Rhondda Cynon Taf, adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi cael grant o £75,000 er mwyn adfer y to, y waliau a’r ffenestri.

Mae Eglwys Sant Cynog, Merthyr Cynog, Aberhonddu, Powys wedi derbyn grant o £64,000 i wneud gwaith atgyweirio mewnol ac allanol, ac mae Eglwys Sant Cynin, Llangynin, Sir Gaerfyrddin wedi cael £49,720 i adfer y tŵr.

Pensiri enwog

Mae un o’r eglwysi Pabyddol hynaf yng Nghymru Eglwys Gatholig Mair a Sant Mihangel, Llan-arth, Sir Fynwy  wedi derbyn grant o £39,500 ar gyfer gwaith atgyweirio.

Y prosiectau eraill sydd wedi derbyn grantiau yw  Glas Hirfryn, Llanrhaeadr, Powys;  Plas Tirion, Ffordd Betws, Llanrwst, Conwy, adeilad rhestredig Gradd II*; Eglwys Sant Simon a Jwdas Sant, Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin;  Eglwys Crist, Bryn-y-Maen, Bae Colwyn gafodd ei dylunio gan Douglas a Fordham, y penseiri enwog o Gaer; ac Eglwys y Santes Mair Forwyn (Eglwys y Plwyf) Helygain, Treffynnon, Sir y Fflint.

Fe fydd grant o £14,000 yn mynd tuag at ailbwyntio Eglwys Sant Gwyddelan, Dolwyddelan, Conwy; ac £11,200 tuag at  Eglwys y Drindod Sanctaidd, Tre’r-llai, Powys sy’n enghraifft  o eglwys ar Ystad Fictoraidd.