Claire Jones
Bydd cyn-delynores  Tywysog Cymru yn ymuno â Chris Evans ar ei raglen foreol ar Radio 2 yfory, er mwyn codi’r hwyl cyn y gêm rygbi fawr yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn.

Newydd ddychwelyd o Hong Kong y mae Claire Jones, sy’n hanu o Grymych, ond ar ganol perfformiadau yn Exeter heno a nos yfory, fe fydd y delynores yn cadw cwmni i’r cyflwynydd pengoch er mwyn diddanu’r 9 miliwn o wrandawyr bore fory.

Bydd Claire Jones yn mynd â’i thelyn gyda hi ar gyfer y rhaglen, ac yn chwarae ambell i ddarn ar gyfer gwrandawyr.

“Maen nhw wedi sefydlu’r rhaglen i gyd o gwmpas y gêm ddydd Sadwrn,” meddai Claire Jones wrth Golwg 360, “ac fe fydda i’n rhoi chwech neu saith cân iddyn nhw ar y delyn – rhywbeth fel Gwyr Harlech, Calon Lân a Cwm Rhondda, ac yn gwneud cyfweliadau bach gydag e fan-hyn a fan-draw.”

Mae’n debyg bod y cyflwynydd Chris Evans yn arbennig o awyddus i gael Claire Jones ar y rhaglen – “yn ôl y sôn, mae e’n dwlu ar delynau,” meddai, “felly bydd hi’n neis iddo fe gael gweld y delyn yn cael ei chwarae yn y stiwdio yn fyw.”

Dim ond dydd Mawrth y derbyniodd Claire Jones y gwahoddiad i gymryd rhan yn y rhaglen – roedd hi’n dal yn Hong Kong ar y pryd – ond roedd y cynhyrchwyr yn awyddus iawn i’w chael hi yno er mwyn “Cymreigio’r rhaglen” o flaen y gêm fawr.

Roedd Claire Jones yn delynores swyddogol i Dywysog Cymru hyd at fis Mehefin eleni – llwyfan sydd wedi lansio gyrfaoedd nifer o delynorion, gan gynnwys Catrin Finch.

Bydd rhaglen frecwast Chris Evans ar Radio 2, gyda Claire Jones, yn cael ei ddarlledu’n fyw bore fory rhwng 6.30am a 9.30am.