Mae Aelodau’r Cynulliad i ffwrdd ar wyliau o’r Senedd ym Mae Caerdydd ers Gorffennaf 19, a fyddan nhw ddim yn dychwelyd yno i drafod eto tan Fedi 15.

Ond mae’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi dweud wrth golwg360 bod eu haelodau nhw yn parhau yn weithgar yn eu cymunedau tros y cyfnod o wyth wythnos i ffwrdd o’r Senedd.

Ac yn ôl llefarydd ar ran y Cynulliad “mae nifer o Aelodau wedi bod yn ymhel â gweithgareddau sydd wedi eu noddi gan y Cynulliad yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd a rhai sydd i ddod yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae Aelodau yn gweithio yn eu hetholaethau a rhanbarthau ar ran y bobol maen nhw yn eu cynrychioli.”

Ond nid oes unrhyw ofyniad ar Aelodau’r Cynulliad i wneud unrhyw waith yn y cyfnod dan sylw.

Mewn wythnos waith arferol, mae Aelodau’r Cynulliad yn y Senedd ar ddyddiau Mawrth, Mercher ac Iau, ac yn canolbwyntio ar waith a syrjeris yn eu hetholaethau ar ddydd Llun a dydd Gwener.

Barn y bobol

Dydi Graham Hutchings ddim yn deall pam fod angen wyth wythnos o wyliau ynghanol ansicrwydd Brexit, ond mae yn ei gweld hi’n bwysig i wleidyddion fynd adref i wneud gwaith yn eu rhanbarthau.

“Fe fydd yr wyth wythnos yma yn mynd a ni ymlaen at Brexit. Mae’n od na fydd trafodaethau yn y Cynulliad am wyth wythnos,” meddai wrth golwg360.

“Fe ddylen nhw gael pythefnos i ffwrdd fel pawb arall, mae’n frêc hollol iawn. Ond eto, dw i’n meddwl os ydi’r gwleidyddion yn gwneud gwaith yn eu hardaloedd, fe ddylen nhw fynd yn ôl yno.”

Dywedodd Becky, merch 26 oed nad oedd am ddatgelu ei chyfenw: “Dw i’n meddwl bod wyth wythnos yn hirach na mae’r mwyafrif ohonom yn ei gael i ffwrdd o’r gweithle.

“Dw i’n credu y dylai fod rhywbeth mewn lle sy’n mesur cyfraniad gwleidyddion yn y cyfnod yma.

“Os ydi’r gweddill ohonon ni yn cael ein gwaith wedi monitro, mae’r mwyafrif o bobol a phethau mewn lle i oruchwylio ble rydych yn gallu mesur faint o waith sy’n cael ei wneud.”

“Gwleidyddiaeth yn mynd yn ei flaen”

Mae Jan Hughes yn rhannu barn Graham Hutchings gan ddweud bod wyth wythnos yn llawer rhy hir.

“O ystyried beth sy’n mynd ymlaen heddiw dydw i ddim yn credu y dylai cael bloc wyth wythnos ble mae’r Cynulliad yn wag,” meddai.

“Mae gwleidyddiaeth yn mynd yn ei flaen, mae popeth yn mynd yn ei flaen. Ti’n sôn am Brexit a phopeth arall, ond dydyn nhw ddim yno.

“Dylai bawb cael gwyliau, does dim os am hynny. Ond maen nhw’n cael eu talu’n dda ac fe ddylen nhw gael eu pythefnos neu dair wythnos o wyliau cyn dychwelyd.”

“Pwysig treulio amser yn yr etholaeth”

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud wrth golwg360 y bydd eu Haelodau Cynulliad “yn gweithio yn galed yn eu hetholaethau tros wyliau’r Haf, fel gyda phob cyfnod o wyliau.

“Mae hi’n bwysig bod Aelodau Cynulliad prysur sy’n treulio llawer o amser yng Nghaerdydd yn cael cyfle estynedig i dreulio amser gyda thrigolion lleol ar hyd Cymru, rhoi sylw i waith achos allweddol, cynnal syrjeris a mynychu digwyddiadau lleol.

“Yn ystod y cyfnod dan sylw mi fyddan nhw yn parhau mewn cyswllt agos gyda’i gilydd, gydag Aelodau Seneddol a Llywodraeth Prydain.

“Mae Aelodau Cynulliad Ceidwadol eisoes wedi bod yn brysur, yn gweithio yn galed i gefnogi cefn gwlad Cymru yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, a dyma ddetholiad o rai o’r pethau mae ein haelodau wedi bod yn wneud:

  • Suzy Davies yn cyfweld merched sy’n ysbrydoli ar facebook ar ddyddiau Iau;
  • Nick Ramsay yn cyfarfod etholwyr i drafod pryderon am ei Gyngor Iechyd Cymunedol lleol;
  • Russel George yn cefnogi sgowtiaid yng ngharnifal Machynlleth.”

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru, mae eu Haelodau Cynulliad nhw yn “ffocysu ar beth maen nhw’n gwneud eu hunain yn eu hardaloedd” yn ystod yr wyth wythnos o wyliau.

“Mae yna lot o waith ymchwil yn mynd ymlaen, mae’n rhoi cyfle i [Aelodau Cynulliad] edrych yn ddyfnach ar broblemau eu cymunedau a chyfarfod pobol yno.”