WPS!
Mae papur newydd y Daily Mirror wedi gwneud llanast o ddarogan enwau tîm Cymru i wynebu Ffrainc.

Yn ogystal â darogan fod y prop pen rhydd, Gethin Jenkins yn debygol o ddechrau yn safle’r mewnwr a Luke Charteris a’i 6’9” yn brop, yn ôl y Daily Mirror bydd Shane Williams yn dechrau yn y canol yn lle Jamie Roberts – seren tîm Cymru yn yr ymgyrch hyd yn hyn.

Y camgymeriad mwyaf anfaddeuol yw rhoi enw rheng ôl Lloegr, Tom Croft, yn y tîm yn flaenasgellwr!

Roedd y papur wedi ceisio dod tros y broblem o gyhoeddi cyn i’r tîm gael ei gyhoeddi’n swyddogol tros nos.

Methu dewis rhwng Jones a Hook

Mae’r papur wedi osgoi dyfalu ai Stephen Jones neu James Hook a fyddai’n dechrau’r gêm, gan enwi’r ddau … ar yr asgell chwith.

Mae mewnwr Cymru, Mike Phillips wedi’i enwi’n faswr tra bod Dan Lydiate (blaenasgellwr) yn symud i’r ail reng, Huw Bennett (bachwr) yn symud i safle’r prop ac Adam Jones (prop) yn fachwr ar gyfer gêm bwysicaf Cymru erioed.


Y timau'n ôl y Daily Mirror