Fe fydd siop Tesco anferth yn cael ei chodi yng nghanol Aberystwyth, er gwaetha’ gwrthwynebiad gan rai pobol leol.

Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi fod datblygwr wedi ei ddewis ar gyfer datblygiad mawr o siopau a llefydd parcio.

Mae’r cynnig a enillodd y broses dendro yn cynnwys siop Tesco, gyda 25,000 o droedfeddi sgwâr ar gyfer bwyd a 12,000 o droedfeddi sgwâr ar gyfer nwyddau eraill.

Fe fydd y Cyngor yn cael rheoli 134 o lefydd parcio a 366 o lefydd parcio eraill yn nwylo Tesco.

Swyddi

Mae’r Cyngor yn honni y bydd y datblygiad, gan gwmni Chelverton Deeley Freed, yn arwain at greu mwy na 200 o swyddi llawn amser o fewn blwyddyn.

Tan hyn, does dim siop Tesco wedi bod hyd lannau’r gorllewin, rhwng Aberteifi a Phorthmadog.

Mae’r cyngor hefyd yn dweud bod Siambr Fasnach Aberystwyth yn cefnogi’r cynllun.