Carwyn Jones
Fe fydd Prif Weinidog Cymru yn trafod gydag arweinwyr y pleidiau eraill ynglŷn â gwario bron £39 miliwn o arian ychwanegol sy’n dod i Gymru.

Fe gyhoeddodd Carwyn Jones y bydd yn cysylltu gyda’r tri arweinydd arall er mwyn holi am syniadau ar ffyrdd o wario’r arian sy’n dod yn sgil penderfyniad Llywodraeth Prydain i rewi’r dreth gyngor yn Lloegr.

Fe fydd Cymru’n cael gwrth tua 5% o gost hynny ond mae Carwyn Jones wedi gwneud yn glir eisoes na fydd yn rhewi’r dreth gyngor yng Nghymru.

Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i hybu twf ac i geisio gwarchod swyddi, meddai yn y Cynulliad. Roedd yn ystyried cynlluniau ym maes sgiliau a phrentisiaethau a buddsoddi mewn ysbytai, ysgolion, tai a thrafnidiaeth.

Ond fe ddywedodd hefyd ei fod yn agored i syniadau gan eraill – fe fydd yn ymgynghori gyda chynrychiolwyr byd busnes hefyd.

Croesawu a beirniadu

Mae’r arweinydd Ceidwadol yng Nghymru wedi croesawu’r cynnig i drafod ond hefyd wedi condemnio’r Llywodraeth am wrthod ystyried rhewi’r dreth gyngor.

Yn awr, mae Andrew R T Davies yn mynnu bod gostwng trethi busnes yn un o’r blaenoriaethau wrth drafod.

“Mae’n hollbwysig fod yr arian yma’n aros ym mhocedi pobol a chyfrifon banc y busnesau,” meddai. “Mae angen i ni gael teuluoedd yn gwario arian yn eu heconomïau lleol ac i fusnesau allu ystyried datblygu a chyflogi.”